Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2016

Amser: 11. - 12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3678


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Julie Morgan AC

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AC

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Caroline Jones AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Sarah Beasley (Clerc)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

Sarah Hatherley (Ymchwilydd)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 166KB) Gweld fel HTML (59KB)

 

1       Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: blaenraglen waith a busnes cynnar

1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y rhaglen waith gychwynnol ar gyfer tymor yr hydref yn amodol ar roi ystyriaeth bellach i'r ymchwiliad ar ad-drefnu gwasanaethau ysbyty.

 

2       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

3       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Plismona a Throseddu: ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

4       Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: trafodaeth bellach ar y flaenraglen waith a busnes cynnar

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar nifer o ymchwiliadau posibl ar gyfer y dyfodol hirdymor a chytunodd i bennu amser ar ddechrau tymor yr hydref i ystyried y rhain ymhellach.